22 Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
23 Dyma'r Pharo'n mynd yn ôl i'w balas, yn poeni dim am y peth.
24 Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr yr Afon Nil.
25 Aeth wythnos lawn heibio ar ôl i'r ARGLWYDD daro'r afon.