19 “Duw sydd tu ôl i hyn!” meddai'r dewiniaid. Ond roedd y Pharo yn aros yr un mor ystyfnig, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
20 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
21 Os byddi di'n gwrthod gadael i'm pobl fynd, dw i'n mynd i anfon heidiau o bryfed i dy boeni di, dy swyddogion a dy bobl. Bydd eich tai yn llawn pryfed, byddan nhw hyd yn oed ar lawr ym mhobman.
22 Ond bydda i'n delio'n wahanol gyda Gosen, lle mae fy mhobl Israel yn byw; fydd yna ddim pryfed yno. Byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, a'm bod i yma yng nghanol gwlad yr Aifft.
23 Bydda i'n gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a dy bobl di. Bydd hyn yn digwydd yfory.”’”
24 A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Daeth haid trwchus o bryfed i mewn i balas y Pharo, tai ei swyddogion, a thrwy wlad yr Aifft i gyd. Roedd y pryfed yn difetha'r wlad.
25 A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Iawn, ewch i aberthu i'ch Duw, ond o fewn ffiniau'r wlad yma.”