29 A dyma Moses yn dweud, “Yn syth ar ôl i mi fynd allan, bydda i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ac yn gofyn iddo anfon y pryfed i ffwrdd yfory – oddi wrthot ti, dy swyddogion a dy bobl. Ond paid ceisio'n twyllo ni eto, a gwrthod gadael i'r bobl fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.”
30 Felly dyma Moses yn gadael y Pharo, ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.
31 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn – dyma fe'n gyrru'r pryfed i ffwrdd oddi wrth y Pharo, ei swyddogion a'i bobl. Doedd dim un ar ôl!
32 Ond dyma'r Pharo'n troi'n ystyfnig unwaith eto, ac yn gwrthod gadael i'r bobl fynd.