5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros yr afonydd, y camlesi a'r corsydd, a gwneud i lyffaint ddod allan dros wlad yr Aifft i gyd.”
6 Dyma Aaron yn gwneud hynny, a daeth llyffaint allan dros wlad yr Aifft i gyd.
7 Ond yna dyma'r dewiniaid yn gwneud yr un peth gyda'i hud a lledrith – roedden nhw hefyd yn gwneud i lyffaint ddod dros y wlad.
8 Yna dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Gweddïwch ar yr ARGLWYDD iddo gymryd y llyffaint i ffwrdd oddi wrtho i a'r bobl. Wedyn bydda i'n gadael i'r bobl fynd, iddyn nhw aberthu i'r ARGLWYDD.”
9 A dyma Moses yn ateb y Pharo, “Iawn, cei di'r fraint o ddweud pryd wyt ti eisiau i mi weddïo. Pryd wyt ti eisiau i'r llyffaint gael eu symud o'ch tai chi, fel bod dim ar ôl ond y rhai sydd yn yr Afon Nil?”
10 A dyma fe'n ateb, “Yfory.”“Iawn,” meddai Moses, “fel rwyt ti'n dweud! Byddi'n deall wedyn fod yna neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw ni.
11 Bydd y llyffaint i gyd wedi mynd, heblaw'r rhai sydd yn yr Afon Nil.”