10 Felly dyma nhw'n cymryd lludw o ffwrnais a mynd i sefyll o flaen y Pharo. A dyma Moses yn ei daflu i'r awyr, ac roedd yn achosi chwyddau oedd yn troi'n septig ar gyrff pobl ac anifeiliaid.
11 Doedd y dewiniaid ddim yn gallu cystadlu gyda Moses o achos y chwyddau. Roedd y chwyddau dros eu cyrff nhw hefyd, fel pawb arall yn yr Aifft.
12 Ond roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo yn fwy ystyfnig fyth. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
13 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo, a dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
14 Y tro yma dw i'n mynd i dy daro di, a dy swyddogion a dy bobl gyda plâu gwaeth fyth, er mwyn i ti ddeall fod yna neb tebyg i mi ar y ddaear.
15 Gallwn i fod wedi dy daro di a dy bobl gyda pla ofnadwy fyddai wedi eich dileu oddi ar wyneb y ddaear!
16 Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos i ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.