21 Ond roedd eraill yn poeni dim am y peth, a dyma nhw'n gadael eu gweision a'u hanifeiliaid yn y caeau.
22 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cod dy law i fyny i'r awyr, i wneud i genllysg ddisgyn drwy wlad yr Aifft, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar y cnydau sy'n tyfu trwy'r wlad i gyd.”
23 Pan gododd Moses ei ffon i'r awyr, dyma'r ARGLWYDD yn anfon storm o genllysg gyda mellt a tharanau. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg ar wlad yr Aifft i gyd.
24 Roedd y cenllysg yn syrthio, a'r mellt yn fflachio yn ôl a blaen. Roedd yn bwrw mor drwm, fuodd yna erioed storm debyg iddi yn holl hanes gwlad yr Aifft.
25 Roedd y cenllysg yn taro popeth oedd allan yn y caeau – pobl ac anifeiliaid, a'r cnydau drwy'r wlad i gyd. Roedd hyd yn oed y coed wedi cael eu dryllio!
26 Yr unig ardal yn yr Aifft gafodd ddim cenllysg oedd Gosen, lle roedd pobl Israel yn byw.
27 Felly dyma'r Pharo yn anfon am Moses ac Aaron, ac yn dweud wrthyn nhw, “Dw i'n cyfaddef fy mod i ar fai. Yr ARGLWYDD sy'n iawn. Dw i a'm pobl yn euog.