26 Yr unig ardal yn yr Aifft gafodd ddim cenllysg oedd Gosen, lle roedd pobl Israel yn byw.
27 Felly dyma'r Pharo yn anfon am Moses ac Aaron, ac yn dweud wrthyn nhw, “Dw i'n cyfaddef fy mod i ar fai. Yr ARGLWYDD sy'n iawn. Dw i a'm pobl yn euog.
28 Gweddïa ar yr ARGLWYDD. Dŷn ni wedi cael digon! Mae'r taranau a'r cenllysg yma'n ormod! Gwna i adael i chi fynd – gorau po gynta!”
29 A dyma Moses yn dweud wrtho, “Pan fydda i wedi mynd allan o'r ddinas, bydda i'n codi fy nwylo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Bydd y taranau a'r cenllysg yn stopio. Byddi'n deall wedyn mai'r ARGLWYDD sydd piau'r ddaear yma.
30 Ond dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti a dy weision eto ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.”
31 (Roedd y cnydau llin a'r cnydau haidd wedi cael eu difetha gan y cenllysg. Roedd yr haidd yn aeddfed, a'r llin wedi blodeuo.
32 Ond roedd y gwenith a'r sbelt yn dal yn iawn, gan eu bod yn gnydau mwy diweddar.)