29 A dyma Moses yn dweud wrtho, “Pan fydda i wedi mynd allan o'r ddinas, bydda i'n codi fy nwylo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Bydd y taranau a'r cenllysg yn stopio. Byddi'n deall wedyn mai'r ARGLWYDD sydd piau'r ddaear yma.
30 Ond dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti a dy weision eto ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.”
31 (Roedd y cnydau llin a'r cnydau haidd wedi cael eu difetha gan y cenllysg. Roedd yr haidd yn aeddfed, a'r llin wedi blodeuo.
32 Ond roedd y gwenith a'r sbelt yn dal yn iawn, gan eu bod yn gnydau mwy diweddar.)
33 Felly dyma Moses yn gadael y Pharo a mynd allan o'r ddinas. Dyma fe'n codi ei ddwylo a gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r taranau a'r cenllysg yn stopio, a'r storm yn clirio.
34 Ond pan welodd y Pharo fod y glaw a'r cenllysg a'r taranau wedi stopio dyma fe'n pechu eto. Dyma fe a'i swyddogion yn troi'n ystyfnig.
35 Roedd y Pharo yn hollol ystyfnig, ac yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.