2 Cronicl 10 BCN

Gwrthryfel Llwythau'r Gogledd

1 Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin.

2 Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, dychwelodd oddi yno.

3 Galwyd arno, ac fe ddaeth yntau a holl Israel a dweud wrth Rehoboam,

4 “Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad, a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn.”

5 Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn ôl ataf.” Aeth y bobl.

6 Ymgynghorodd Rehoboam â'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, “Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?”

7 Eu hateb oedd, “Os byddi'n glên wrthynt, a'u bodloni a'u hateb â geiriau teg, byddant yn weision iti am byth.”

8 Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoedion iddo ac yn aelodau o'i lys.

9 Gofynnodd iddynt hwy, “Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, ‘Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom’?”

10 Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, “Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt, ‘Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom’. Ie, dyma a ddywedi wrthynt: ‘Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!

11 Y mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!’ ”

12 Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, “Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau”,

13 atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd Rehoboam gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau.

14 Dywedodd wrthynt, “Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!”

15 Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan Dduw, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarwyd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.

16 A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin:“Pa ran sydd i ni yn Nafydd?Nid oes gyfran inni ym mab Jesse.Adref i'th bebyll, Israel!Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!”

17 Yna aeth Israel adref. Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.

18 Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem.

19 Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36