2 Cronicl 16 BCN

Helynt rhwng Israel a Jwda

1 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.

2 Cymerodd Asa arian ac aur allan o drysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u hanfon i Ben-hadad brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus; a dywedodd wrtho,

3 “Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf.”

4 Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, i ymosod ar Ijon, Dan ac Abel-maim, ac ar holl ddinasoedd stôr Nafftali.

5 Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama a gadawodd y gwaith.

6 Yna daeth y Brenin Asa â holl Jwda i gymryd y meini a'r coed oedd gan Baasa yn adeiladu Rama, a'u defnyddio i adeiladu Geba a Mispa.

Y Proffwyd Hanani

7 Y pryd hwnnw daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am i ti ymddiried ym mrenin Syria, a gwrthod ymddiried yn yr ARGLWYDD dy Dduw, dihangodd byddin brenin Syria o'th afael.

8 Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Libyaid yn llu aneirif a chanddynt lawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am i ti ymddiried yn yr ARGLWYDD, rhoddodd ef hwy yn dy law.

9 Oherwydd y mae llygaid yr ARGLWYDD yn tramwyo dros yr holl ddaear, i ddangos ei gryfder i'r sawl sy'n gwbl ymroddedig iddo. Buost yn ynfyd yn hyn o beth; felly, o hyn allan ymladd fydd dy ran.”

10 Gwylltiodd Asa wrth y gweledydd a'i roi yn y carchar, oherwydd yr oedd yn ddig wrtho am ddweud hyn. A'r pryd hwnnw fe orthrymodd Asa rai o'r bobl.

Diwedd Teyrnasiad Asa

11 Y mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad dechreuodd Asa ddioddef yn enbyd o glefyd yn ei draed; ond yn ei waeledd fe geisiodd y meddygon yn hytrach na'r ARGLWYDD.

13 Bu Asa farw; yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad y bu farw.

14 Claddwyd ef yn y bedd a wnaeth iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a'i roi i orwedd ar wely yn llawn peraroglau a phob math o ennaint wedi eu cymysgu'n ofalus gan y peraroglydd; a gwnaethant dân mawr iawn i'w anrhydeddu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36