2 Cronicl 8 BCN

Gweithgarwch Solomon

1 Ar derfyn yr ugain mlynedd a gymerodd Solomon i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun,

2 fe ailadeiladodd y dinasoedd a roddodd Hiram iddo, a rhoi Israeliaid i fyw ynddynt.

3 Aeth Solomon i Hamath-soba a'i gorchfygu,

4 ac fe ailadeiladodd Tadmor yn y diffeithwch, a'r holl ddinasoedd stôr yr oedd wedi eu hadeiladu yn Hamath.

5 Fe adeiladodd Beth-horon Uchaf a Beth-horon Isaf yn ddinasoedd caerog â muriau, dorau a barrau,

6 hefyd Baalath a'r holl ddinasoedd stôr oedd gan Solomon, a'r holl ddinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall y dymunai ei adeiladu, p'run ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.

7 Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.

8 Yr oedd disgynyddion y rhain wedi eu gadael ar ôl yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa; arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.

9 Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas ar gyfer ei waith; hwy oedd ei filwyr, ei gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,

10 a hwy hefyd oedd prif arolygwyr y Brenin Solomon—dau gant a hanner ohonynt, yn rheoli'r bobl.

11 Daeth Solomon â merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i'r tŷ a gododd iddi, oherwydd dywedodd, “Ni chaiff fy ngwraig i fyw yn nhŷ Dafydd brenin Israel, am fod pob man yr aeth arch yr ARGLWYDD iddo yn gysegredig.”

12 Yna fe offrymodd Solomon boethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, a gododd o flaen y porth.

13 Offrymai yn unol â'r gofynion dyddiol a orchmynnodd Moses ynglŷn â'r Sabothau, y newydd-loerau a'r tair gŵyl flynyddol arbennig, sef gŵyl y Bara Croyw, gŵyl yr Wythnosau a gŵyl y Pebyll.

14 Ac yn unol â threfn ei dad Dafydd, fe osododd yr offeiriaid mewn dosbarthiadau ar gyfer gwasanaethu, a'r Lefiaid ar ddyletswydd i ganu mawl ac i wasanaethu'r offeiriaid yn feunyddiol yn ôl y gofyn, a'r porthorion mewn dosbarthiadau wrth bob porth, oherwydd dyma orchymyn Dafydd, gŵr Duw.

15 Nid anghofiwyd gorchymyn y brenin i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglŷn â'r trysordai, na dim arall.

16 Felly cyflawnwyd holl waith Solomon, o'r dydd y gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD nes ei gwblhau; a gorffennwyd tŷ'r ARGLWYDD.

17 Yna aeth Solomon i Esion-geber ac i Elath, sydd ar lan y môr yng ngwlad Edom.

18 Anfonodd Hiram longau iddo gyda'i weision oedd yn forwyr profiadol, ac aethant gyda gweision Solomon i Offir, a dod â phedwar cant a hanner o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36