2 Cronicl 15 BCN

Diwygiadau Asa

1 Daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded,

2 ac fe aeth allan i gyfarfod Asa, a dweud wrtho, “O Asa, a holl Jwda a Benjamin, gwrandewch arnaf fi. Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau.

3 Am amser maith bu Israel heb y gwir Dduw, heb offeiriad i'w dysgu a heb gyfraith.

4 Yn eu trybini dychwelsant at ARGLWYDD Dduw Israel, a'i geisio, ac amlygodd yntau ei hun iddynt.

5 Yn y cyfnod hwnnw nid oedd heddwch i neb yn ei fywyd beunyddiol, am fod trigolion y gwledydd mewn ymrafael parhaus;

6 dinistrid cenedl gan genedl, a dinas gan ddinas, am fod Duw yn eu poeni â phob aflwydd.

7 Ond byddwch chwi'n wrol! Peidiwch â llaesu dwylo, oherwydd fe gewch wobr am eich gwaith.”

8 Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac adnewyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.

9 Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef.

10 Daethant ynghyd i Jerwsalem yn y trydydd mis o'r bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11 Y diwrnod hwnnw aberthasant i'r ARGLWYDD saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid o'r anrhaith a ddygasant.

12 Gwnaethant gyfamod i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid â'u holl galon ac â'u holl enaid.

13 Yr oedd pwy bynnag a wrthodai geisio ARGLWYDD Dduw Israel i'w roi i farwolaeth, boed fach neu fawr, gŵr neu wraig.

14 Tyngasant i'r ARGLWYDD â llais uchel a bloedd, a thrwmpedau ac utgyrn.

15 Gorfoleddodd holl Jwda o achos y llw, am iddynt ei dyngu â'u holl galon; ceisiasant yr ARGLWYDD o'u gwirfodd, a datguddiodd yntau ei hun iddynt. Felly rhoes yr ARGLWYDD lonydd iddynt oddi amgylch.

16 Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron.

17 Ni symudwyd yr uchelfeydd o Israel; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir ar hyd ei oes.

18 Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.

19 Ac ni bu rhyfel hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36