2 Cronicl 33 BCN

Manasse Brenin Jwda

1 Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem.

2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.

3 Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i'r Baalim a gwneud delwau o Asera, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.

4 Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, “Yn Jerwsalem y bydd fy enw am byth.”

5 Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml.

6 Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

7 Gwnaeth ddelw gerfiedig a'i gosod yn y deml y dywedodd Duw amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, “Yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw'n dragwyddol.

8 Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'ch hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud y cwbl a orchmynnais iddynt yn y gyfraith, y deddfau a'r cyfreithiau a gawsant gan Moses.”

9 Ond arweiniodd Manasse Jwda a thrigolion Jerwsalem ar gyfeiliorn, i wneud yn waeth na'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.

10 Er i'r ARGLWYDD lefaru wrth Manasse a'i bobl, ni wrandawsant.

11 Yna anfonodd yr ARGLWYDD swyddogion byddin brenin Asyria yn eu herbyn; daliasant hwy Manasse â bachau a'i roi mewn gefynnau pres a mynd ag ef i Fabilon.

12 Yn ei gyfyngder gweddïodd Manasse ar yr ARGLWYDD ei Dduw, a'i ddarostwng ei hun o flaen Duw ei hynafiaid.

13 Pan weddïodd arno, trugarhaodd Duw wrtho; gwrandawodd ar ei weddi a dod ag ef yn ôl i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna gwybu Manasse mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.

14 Ar ôl hyn adeiladodd fur allanol i Ddinas Dafydd yn y dyffryn i'r gorllewin o Gihon hyd at fynedfa Porth y Pysgod, ac amgylchu Offel a'i wneud yn uchel iawn. Gosododd hefyd swyddogion milwrol yn holl ddinasoedd caerog Jwda.

15 Tynnodd ymaith y duwiau dieithr a'r ddelw o dŷ'r ARGLWYDD, a'r holl allorau a adeiladodd ym mynydd tŷ'r ARGLWYDD ac yn Jerwsalem, a'u taflu allan o'r ddinas.

16 Atgyweiriodd allor yr ARGLWYDD, ac offrymodd arni heddoffrymau ac offrymau diolch a gorchymyn Jwda i wasanaethu'r ARGLWYDD, Duw Israel.

17 Er hynny, yr oedd y bobl yn dal i aberthu ar yr uchelfeydd, ond i'r ARGLWYDD eu Duw yn unig.

18 Am weddill hanes Manasse, ei weddi ar ei Dduw, a geiriau'r gweledyddion a fu'n siarad ag ef yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, y maent yng nghronicl brenhinoedd Israel.

19 Y mae ei weddi a'r ateb ffafriol a gafodd, a hanes ei holl bechod a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd uchelfeydd a gosod pyst Asera a cherfddelwau ynddynt cyn iddo ymostwng, wedi eu hysgrifennu yng nghronicl y gweledyddion.

20 A bu farw Manasse, a'i gladdu yn ei balas; a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.

Amon Brenin Jwda

21 Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem.

22 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse. Aberthodd Amon i'r holl gerfddelwau a wnaeth ei dad, ac fe'u gwasanaethodd.

23 Ond nid ymostyngodd o flaen yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Manasse; yr oedd ef, Amon, yn troseddu'n waeth.

24 Cynllwynodd ei weision yn ei erbyn, a'i ladd yn ei dŷ;

25 ond yna, lladdwyd pawb a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36