2 Cronicl 25 BCN

Amaseia Brenin Jwda

1 Pump ar hugain oed oedd Amaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.

2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid â chalon berffaith.

3 Wedi iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, lladdodd y gweision oedd wedi llofruddio'r brenin, ei dad.

4 Ond ni roddodd eu plant i farwolaeth, yn unol â'r hyn sy'n ysgrifenedig yn y gyfraith, yn llyfr Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, “Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth.”

Rhyfel yn erbyn Edom

5 Yna fe gasglodd Amaseia wŷr Jwda a'u gosod fesul teuluoedd o dan gapteiniaid miloedd a chapteiniaid cannoedd trwy holl Jwda a Benjamin. Rhifodd y rhai oedd yn ugain mlwydd oed a throsodd, a'u cael yn dri chan mil o wŷr dethol, parod i fynd allan i ryfel ac yn medru trin gwaywffon a tharian.

6 Cyflogodd hefyd gan mil o wroniaid o Israel am gan talent o arian.

7 Ond daeth gŵr Duw ato a dweud, “O frenin, paid â gadael i fyddin Israel fynd gyda thi, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gydag Israel, sef holl dylwyth Effraim.

8 Ond os ei ac ymgryfhau ar gyfer brwydr, bydd Duw yn dy ddymchwel o flaen y gelyn; oherwydd y mae gan Dduw y gallu i gynorthwyo neu i ddymchwel.”

9 Meddai Amaseia wrth ŵr Duw, “Ond beth a wnawn am y can talent a roddais i'r fintai o Israel?” Dywedodd gŵr Duw, “Gall yr ARGLWYDD roi llawer mwy na hynny iti.”

10 Felly rhyddhaodd Amaseia y fintai a ddaeth ato o Effraim, a'i hanfon adref. Yr oeddent hwy yn flin iawn gyda Jwda, ac aethant adref yn ddicllon.

11 Ond ymgryfhaodd Amaseia, ac arweiniodd ei filwyr i Ddyffryn yr Halen, lle lladdodd ddeng mil o filwyr Seir.

12 Daliodd milwyr Jwda ddeng mil arall ohonynt yn fyw, a mynd â hwy i ben craig a'u taflu oddi arni, nes darnio pob un ohonynt.

13 Ond yr oedd y fintai a waharddodd Amaseia rhag dod gydag ef i'r frwydr wedi anrheithio dinasoedd Jwda, o Samaria i Beth-horon, a lladd tair mil o'u trigolion a chymryd llawer iawn o ysbail.

14 Pan ddychwelodd Amaseia ar ôl gorchfygu'r Edomiaid, daeth â duwiau pobl Seir a'u gosod yn dduwiau iddo'i hun; addolodd hwy ac arogldarthu iddynt.

15 Am hynny digiodd yr ARGLWYDD wrth Amaseia ac anfonodd broffwyd ato. Dywedodd hwnnw wrtho, “Pam yr wyt wedi troi at dduwiau na fedrent achub eu pobl eu hunain rhagot?”

16 Fel yr oedd yn siarad, dywedodd y brenin, “A ydym wedi dy benodi'n gynghorwr i'r brenin? Taw! Pam y perygli dy fywyd?” Tawodd y proffwyd, ond nid cyn dweud, “Gwn fod Duw wedi penderfynu dy ddinistrio am iti wneud hyn a gwrthod gwrando ar fy nghyngor.”

Rhyfel yn erbyn Israel

17 Wedi ymgynghori, anfonodd Amaseia brenin Jwda neges at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, “Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb.”

18 Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon, a dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab’. Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.

19 Y mae'n wir iti daro Edom, ond aethost yn ffroenuchel a balch. Yn awr, aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr gyda thi?”

20 Ond ni fynnai Amaseia wrando, oherwydd gwaith Duw oedd hyn er mwyn eu rhoi yn llaw Joas am iddynt droi at dduwiau Edom.

21 Felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.

22 Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.

23 Wedi i Joas brenin Israel ddal brenin Jwda, sef Amaseia fab Joas, fab Jehoahas, yn Beth-semes, daeth ag ef i Jerwsalem, a thorrodd i lawr fur Jerwsalem o Borth Effraim hyd Borth y Gongl, sef pedwar can cufydd.

24 Hefyd aeth â'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn nhŷ Dduw dan ofal Obed-edom, ynghyd â thrysorau'r palas a gwystlon, a dychwelodd i Samaria.

25 Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd ar ôl marw Joas fab Jehoahas, brenin Israel.

26 Am weddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?

27 O'r amser y gwrthododd Amaseia ddilyn yr ARGLWYDD, cynllwyniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem. Ffodd yntau i Lachis, ond anfonwyd ar ei ôl i Lachis a'i ladd yno.

28 Yna cludwyd ef ar feirch, a'i gladdu gyda'i dadau yn Ninas Dafydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36