2 Cronicl 31 BCN

Diwygiadau Heseceia

1 Pan ddaeth hyn i ben, aeth yr holl Israeliaid oedd yn bresennol allan i ddinasoedd Jwda i ddryllio'r colofnau, torri'r prennau Asera, a distrywio'r uchelfeydd a'r allorau trwy holl Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse. Ar ôl eu difa'n llwyr dychwelodd yr holl Israeliaid i'w dinasoedd, pob un i'w gartref ei hun.

2 Trefnodd Heseceia yr offeiriaid a'r Lefiaid yn ddosbarthiadau ar gyfer eu gwasanaeth; yr oedd pob offeiriad a Lefiad yn gyfrifol am y poethoffrwm a'r heddoffrymau, ac yr oeddent i weini a rhoi diolch a moliannu ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.

3 Cyfrannodd y brenin o'i olud ei hun tuag at y poethoffrymau, sef at boethoffrymau'r bore a'r hwyr a phoethoffrymau'r Sabothau, y newydd-loerau a'r gwyliau penodedig, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.

4 Gorchmynnodd i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem roi i'r offeiriaid a'r Lefiaid eu cyfran, er mwyn iddynt gadw cyfraith yr ARGLWYDD yn well.

5 Pan gyhoeddwyd hyn, daeth yr Israeliaid â llawer o flaenffrwyth ŷd, gwin, olew, mêl a holl gnwd y maes; daethant â degwm llawn o bopeth.

6 Daeth pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn ninasoedd Jwda â degwm o wartheg a defaid, ac o'r pethau cysegredig a gysegrwyd i'r ARGLWYDD eu Duw, a'u gosod yn bentyrrau.

7 Dechreusant godi'r pentyrrau yn y trydydd mis, a'u gorffen yn y seithfed mis.

8 Pan ddaeth Heseceia a'i swyddogion a gweld y pentyrrau, bendithiasant yr ARGLWYDD a'i bobl Israel.

9 Pan ofynnodd Heseceia i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglŷn â'r pentyrrau,

10 dywedodd Asareia yr archoffeiriad o dŷ Sadoc wrtho, “Er pan ddechreuodd y bobl ddod â chyfraniadau i dŷ'r ARGLWYDD, bwytasom a chawsom ein digoni, ac y mae llawer yn weddill, oherwydd bendithiodd yr ARGLWYDD ei bobl; dyna pam y mae cymaint ar ôl fel hyn.”

11 Gorchmynnodd Heseceia baratoi ystordai yn nhŷ'r ARGLWYDD; gwnaethant felly,

12 a daeth y bobl â'r blaenffrwyth, y degwm a'r pethau cysegredig i mewn yn ffyddlon. Y pennaeth oedd Conaneia y Lefiad, a'i frawd Simei oedd y nesaf ato.

13 Yn ôl gorchymyn y Brenin Heseceia ac Asareia pennaeth tŷ Dduw, yr oedd Conaneia a'i frawd Simei yn cael eu cynorthwyo gan oruchwylwyr, sef Jehiel, Ahaseia, Nahath, Asahel, Jerimoth, Josabad, Eliel, Ismachëa, Mahath a Benaia.

14 Core fab Imna y Lefiad, y porthor wrth borth y dwyrain, oedd yn gofalu am yr offrymau gwirfoddol i Dduw, ac yn dosbarthu'r cyfraniadau a wnaed i'r ARGLWYDD a'r offrymau mwyaf sanctaidd.

15 Yr oedd Eden, Miniamin, Jesua, Semaia, Amareia a Sechaneia yn ei gynorthwyo yn ninasoedd yr offeiriaid i rannu'n deg i'w brodyr, yn fach a mawr, fesul dosbarth.

16 Yn ychwanegol, rhoddwyd ar y rhestr bob gwryw tair oed a throsodd a oedd yn dod yn ei dro i dŷ'r ARGLWYDD i wasanaethu trwy gadw dyletswyddau yn ôl eu dosbarthiadau.

17 Rhoddwyd ar y rhestr hefyd yr offeiriaid, yn ôl eu teuluoedd, a'r Lefiaid oedd yn ugain oed a throsodd, yn ôl eu dyletswyddau a'u dosbarthiadau.

18 Rhoddwyd hwy ar y rhestr gyda'u holl blant, gwragedd, meibion a merched, y cwmni i gyd, am iddynt ymgysegru'n ffyddlon.

19 Ar gyfer meibion Aaron, yr offeiriaid, a oedd yn byw yng nghytir eu dinasoedd, penodwyd dynion ym mhob dinas i roi cyfraniadau i bob gwryw yn eu plith ac i bob un o'r Lefiaid oedd ar y rhestr.

20 Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr ARGLWYDD ei Dduw.

21 Pa beth bynnag a wnâi i geisio ei Dduw yng ngwasanaeth tŷ Dduw, yn ôl gofynion y gyfraith a'r gorchmynion, fe'i gwnâi â'i holl galon, a llwyddo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36