2 Cronicl 29 BCN

Heseceia Brenin Jwda

1 Pump ar hugain oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abeia ferch Sechareia oedd enw ei fam.

2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

Sancteiddio ac Ailgysegru'r Deml

3 Yn y mis cyntaf o'r flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad agorodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD a'u hatgyweirio.

4 Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn y sgwâr ar yr ochr ddwyreiniol,

5 a dweud wrthynt, “Lefiaid, gwrandewch arnaf fi. Ymgysegrwch yn awr, a chysegrwch dŷ'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, a dewch â phob aflendid allan o'r cysegr.

6 Oherwydd troseddodd ein hynafiaid, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ei wrthod, a throi oddi wrth babell yr ARGLWYDD a chefnu arni.

7 Hefyd caeasant ddrysau'r cyntedd a diffodd y lampau; peidiasant ag arogldarthu ac offrymu poethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.

8 Felly daeth llid yr ARGLWYDD ar Jwda a Jerwsalem a'u gwneud yn destun arswyd, syndod a gwatwar, fel y gwelwch â'ch llygaid eich hun.

9 Ystyriwch fel y syrthiodd ein hynafiaid trwy fin y cleddyf, ac fel yr aeth ein meibion, ein merched a'n gwragedd i gaethiwed o achos hyn.

10 Yn awr, yr wyf â'm bryd ar wneud cyfamod â'r ARGLWYDD, Duw Israel, er mwyn troi ei lid tanbaid oddi wrthym.

11 Felly, gymrodyr, peidiwch â bod yn esgeulus, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi i sefyll ger ei fron er mwyn gweini arno ac arogldarthu iddo.”

12 Yna cododd y Lefiaid, sef Mahath fab Amasai a Joel fab Asareia o deulu'r Cohathiaid, Cis fab Abdi ac Asareia fab Jehaleleel o deulu Merari, Joa fab Simma ac Eden fab Joa o deulu'r Gersoniaid,

13 Simri a Jeiel o deulu Elisaffan, Sechareia a Mattaneia o deulu Asaff,

14 Jehiel a Simei o deulu Heman, a Semaia ac Ussiel o deulu Jeduthun.

15 Cynullasant eu cymrodyr ac ymgysegru; yna aethant i buro tŷ'r ARGLWYDD yn ôl gorchymyn y brenin trwy air yr ARGLWYDD.

16 Aeth yr offeiriaid i mewn i dŷ'r ARGLWYDD i'w buro; daethant â phopeth halogedig a oedd yn y deml allan i gwrt tŷ'r ARGLWYDD. Oddi yno aeth y Lefiaid â hwy allan i nant Cidron.

17 Dechreusant sancteiddio ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, ac erbyn yr wythfed dydd o'r mis yr oeddent wedi cyrraedd cyntedd yr ARGLWYDD. Am wyth diwrnod buont yn sancteiddio tŷ'r ARGLWYDD, a gorffen ar yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf.

18 Yna aethant i'r palas at y Brenin Heseceia, a dweud, “Yr ydym wedi puro tŷ'r ARGLWYDD drwyddo, a hefyd allor y poethoffrwm a bwrdd y bara gosod a'u holl lestri.

19 Yr ydym hefyd wedi paratoi a chysegru'r holl lestri a daflwyd allan gan y Brenin Ahas yn ystod ei deyrnasiad, pan oedd yn anffyddlon; y maent yn awr o flaen allor yr ARGLWYDD.”

20 Yna cododd y Brenin Heseceia yn fore, a chynnull swyddogion y ddinas a mynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD.

21 Daethant â saith bustach, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod ar ran y frenhiniaeth, y cysegr, a Jwda; a gorchmynnodd y brenin i'r offeiriaid, meibion Aaron, eu hoffrymu ar allor yr ARGLWYDD.

22 Felly lladdwyd y bustych, a derbyniodd yr offeiriaid eu gwaed a'i luchio yn erbyn yr allor; wedyn lladdwyd yr hyrddod a'r ŵyn, a lluchio'r gwaed yn erbyn yr allor.

23 Daethant â bychod yr aberth dros bechod o flaen y brenin a'r gynulleidfa, a gosod eu dwylo arnynt;

24 yna lladdodd yr offeiriaid hwy a chyflwyno'u gwaed yn aberth dros bechod ar yr allor, i wneud cymod dros holl Israel. Oherwydd gorchmynnodd y brenin y dylid offrymu poethoffrwm ac aberth dros bechod ar ran Israel gyfan.

25 Gosododd Heseceia y Lefiaid yn nhŷ'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd; gorchymyn oedd hwn a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD trwy ei broffwydi.

26 Safodd y Lefiaid gydag offerynnau Dafydd, a'r offeiriaid gyda'r trwmpedau.

27 Rhoddodd Heseceia orchymyn i offrymu'r poethoffrwm ar yr allor; a phan ddechreuodd y poethoffrwm, fe ddechreuodd cân i'r ARGLWYDD gyda'r trwmpedau ac offerynnau Dafydd brenin Israel.

28 Yr oedd yr holl gynulleidfa yn ymgrymu, y cantorion yn canu a'r trwmpedau yn seinio; parhaodd y cwbl nes gorffen y poethoffrwm.

29 Wedi gorffen offrymu, plygodd y brenin, a phawb oedd gydag ef, ac ymgrymu.

30 Gorchmynnodd y Brenin Heseceia a'r swyddogion i'r Lefiaid foliannu'r ARGLWYDD yng ngeiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly canasant fawl yn llawen, ac ymostwng ac ymgrymu.

31 Dywedodd Heseceia, “Yr ydych yn awr wedi ymgysegru i'r ARGLWYDD; dewch i'w dŷ gydag aberthau ac offrymau diolch.” Felly dygodd y gynulleidfa aberthau ac offrymau diolch, a daeth pob un ewyllysgar â phoethoffrymau.

32 Nifer y poethoffrymau a ddygodd y gynulleidfa oedd deg a thrigain o fustych, cant o hyrddod a dau gant o ŵyn, pob un yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD;

33 nifer yr offrymau cysegredig oedd chwe chant o fustych a thair mil o ddefaid.

34 Ond nid oedd digon o offeiriaid i flingo'r holl boethoffrymau; felly cynorthwyodd eu brodyr y Lefiaid hwy i orffen y gwaith, nes i fwy o offeiriaid ymgysegru, oherwydd yr oedd y Lefiaid yn cymryd mwy o ofal wrth ymgysegru na'r offeiriaid.

35 Yn ogystal â llawer iawn o boethoffrymau, yr oedd yno fraster yr heddoffrymau a diodoffrymau ar gyfer y poethoffrymau. Fel hyn yr aildrefnwyd gwasanaeth tŷ'r ARGLWYDD.

36 Llawenhaodd Heseceia a'r holl bobl am yr hyn a wnaeth Duw iddynt, oherwydd fe ddigwyddodd y peth mor ddisymwth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36