7 Dywedodd wrth Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r dinasoedd hyn a'u hamgylchu â muriau gyda thyrau, a dorau a barrau. Y mae'r wlad yn dal yn agored o'n blaen am i ni geisio'r ARGLWYDD ein Duw. Yr ydym ni wedi ei geisio ef, ac y mae yntau wedi rhoi heddwch i ni oddi amgylch.” Felly, adeiladodd y bobl a llwyddo.