1 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.
2 Cymerodd Asa arian ac aur allan o drysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u hanfon i Ben-hadad brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus; a dywedodd wrtho,
3 “Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf.”
4 Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, i ymosod ar Ijon, Dan ac Abel-maim, ac ar holl ddinasoedd stôr Nafftali.
5 Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama a gadawodd y gwaith.
6 Yna daeth y Brenin Asa â holl Jwda i gymryd y meini a'r coed oedd gan Baasa yn adeiladu Rama, a'u defnyddio i adeiladu Geba a Mispa.