1 Yr oedd gan Jehosaffat olud a chyfoeth mawr iawn, ac yr oedd yn perthyn i Ahab trwy briodas.
2 Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead.
3 Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, “A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?” Atebodd yntau, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel.”
4 Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD.”