10 Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Gyda'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ”
11 Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”
12 Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.”
13 Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf.”
14 Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd wrtho, “Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw.”
15 Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?”
16 Yna dywedodd Michea:“Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniaufel defaid heb fugail ganddynt.A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain;felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ”