16 Yna dywedodd Michea:“Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniaufel defaid heb fugail ganddynt.A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain;felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ”
17 Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach ddrwg?”
18 A dywedodd Michea, “Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo.
19 A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?’ Ac yr oedd un yn dweud fel hyn, a'r llall fel arall;
20 ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef’. Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’
21 Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’
22 Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.”