8 Hefyd, fe osododd Jehosaffat yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid a'r offeiriaid, a phennau-teuluoedd yr Israeliaid, i weinyddu cyfraith yr ARGLWYDD ac i dorri dadleuon trigolion Jerwsalem.
9 Dyma ei orchymyn iddynt: “Yr ydych i weithredu'n ffyddlon a didwyll yn ofn yr ARGLWYDD.
10 Ym mhob achos a ddaw o'ch blaen oddi wrth eich cymrodyr sy'n byw yn eu dinasoedd, p'run ai achosion o dywallt gwaed neu unrhyw achos arall o gyfraith, gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwy i beidio â throseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, neu fe ddaw ei lid arnoch chwi a'ch cymrodyr. Ond ichwi wneud hyn, ni fyddwch yn troseddu.
11 Amareia yr archoffeiriad fydd ag awdurdod drosoch ym mhob peth sy'n ymwneud â'r ARGLWYDD, a Sebadeia fab Ismael, llywodraethwr tŷ Jwda, ym mhob peth sy'n ymwneud â'r brenin; y Lefiaid fydd yn swyddogion i chwi. Ymwrolwch a gwnewch fel hyn; bydded yr ARGLWYDD gyda'r daionus.”