13 ond dilynaist frenhinoedd Israel, a gwneud i Jwda a thrigolion Jerwsalem buteinio, fel y gwnaeth tŷ Ahab gydag Israel; yr wyt hefyd wedi lladd dy frodyr o dŷ dy dad, dynion gwell na thi.
14 Am hyn, fe ddaw'r ARGLWYDD â phla mawr ar dy bobl, dy feibion, dy wragedd a'th holl olud.
15 Fe fyddi di dy hun yn dioddef o glefyd enbyd yn dy goluddion, clefyd fydd ymhen amser yn gwneud i'r coluddion ddisgyn allan.’ ”
16 Yna cyffrôdd yr ARGLWYDD y Philistiaid, a'r Arabiaid oedd yn byw yn ymyl yr Ethiopiaid, yn erbyn Jehoram.
17 Daethant i fyny yn erbyn Jwda ac ymosod arni, a chludo ymaith yr holl olud oedd yn nhŷ'r brenin, yn ogystal â'i feibion a'i wragedd; ni adawyd neb ond Jehoahas, ei fab ieuengaf, ar ôl.
18 Ar ôl hyn i gyd trawodd yr ARGLWYDD ef â chlefyd marwol yn ei goluddion.
19 Ac yng nghwrs amser, wedi i ddwy flynedd ddod i ben, disgynnodd ei goluddion allan o achos y clefyd, a bu farw mewn poenau enbyd. Ni wnaeth y bobl dân er anrhydedd iddo, fel y gwnaethant i'w ragflaenwyr.