2 Dwy a deugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn.
3 Athaleia oedd enw ei fam, wyres Omri. Dilynodd yntau hefyd yr un llwybr â thŷ Ahab, oherwydd yr oedd ei fam yn ei arwain i wneud drwg.
4 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth tŷ Ahab; oherwydd ar ôl marw ei dad hwy oedd yn ei gynghori, er mawr niwed iddo.
5 Fe gymerodd eu cyngor hwy, ac aeth gyda Joram fab Ahab, brenin Israel, i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead.
6 Ond anafodd y Syriaid Joram a chiliodd yntau i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.
7 Penderfynodd Duw ddinistrio Ahaseia wrth iddo ymweld â Jehoram. Pan gyrhaeddodd Ahaseia, aeth allan gyda Jehoram yn erbyn Jehu fab Nimsi, a eneiniwyd gan yr ARGLWYDD i ddifodi tŷ Ahab.
8 Fel yr oedd Jehu yn cosbi tŷ Ahab, daeth o hyd i dywysogion Jwda a meibion brodyr Ahaseia, a fu'n gwasanaethu Ahaseia, ac fe'u lladdodd.