13 Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y fynedfa, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, a'r cantorion gydag offerynnau yn arwain y moliant, rhwygodd ei dillad a gweiddi, “Brad! brad!”
14 Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, “Ewch â hi y tu allan i gyffiniau'r tŷ, a lladder â'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier,” meddai'r offeiriad, “â'i lladd yn nhŷ'r ARGLWYDD.”
15 Felly daliasant hi fel yr oedd yn cyrraedd mynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.
16 Gwnaeth Jehoiada gyfamod y byddai ef ei hun a'r holl bobl a'r brenin yn bobl i'r ARGLWYDD.
17 Aeth yr holl bobl at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau.
18 Yna rhoddodd Jehoiada y cyfrifoldeb o edrych ar ôl tŷ'r ARGLWYDD i'r offeiriaid oedd yn Lefiaid, ac a osodwyd gan Ddafydd dros dŷ'r ARGLWYDD i offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD, fel y mae'n ysgrifenedig yn neddf Moses, ac i wneud hynny gyda llawenydd a chân yn ôl trefn Dafydd.
19 Gosododd y porthorion wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD i sicrhau na fyddai neb oedd yn aflan mewn unrhyw ffordd yn mynd i mewn.