15 Felly daliasant hi fel yr oedd yn cyrraedd mynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.
16 Gwnaeth Jehoiada gyfamod y byddai ef ei hun a'r holl bobl a'r brenin yn bobl i'r ARGLWYDD.
17 Aeth yr holl bobl at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau.
18 Yna rhoddodd Jehoiada y cyfrifoldeb o edrych ar ôl tŷ'r ARGLWYDD i'r offeiriaid oedd yn Lefiaid, ac a osodwyd gan Ddafydd dros dŷ'r ARGLWYDD i offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD, fel y mae'n ysgrifenedig yn neddf Moses, ac i wneud hynny gyda llawenydd a chân yn ôl trefn Dafydd.
19 Gosododd y porthorion wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD i sicrhau na fyddai neb oedd yn aflan mewn unrhyw ffordd yn mynd i mewn.
20 Yna daeth Jehoiada â'r capteiniaid, y pendefigion, llywodraethwyr y bobl a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o dŷ'r ARGLWYDD. Daethant trwy'r porth uchaf i'r palas, a gosod y brenin ar yr orsedd frenhinol.
21 Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia â'r cleddyf.