3 Yna gwnaeth y gynulleidfa gyfan gyfamod â'r brenin yn nhŷ Dduw. Dywedodd Jehoiada wrthynt, “Dyma fab y brenin! Bydded iddo deyrnasu, fel y dywedodd yr ARGLWYDD y gwnâi meibion Dafydd.
4 Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch chwi'r offeiriaid a'r Lefiaid, sy'n dod ar ddyletswydd ar y Saboth, i wylio'r pyrth;
5 traean arall i aros yn nhŷ'r brenin, a thraean i fod wrth Borth y Sylfaen. Bydded i'r holl bobl aros yng nghynteddau tŷ'r ARGLWYDD.
6 Nid oes neb i fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD ond yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd; cânt hwy fynd am eu bod yn sanctaidd; rhaid i bawb arall gadw gorchymyn yr ARGLWYDD.
7 Y mae'r Lefiaid i sefyll o amgylch y brenin, pob un â'i arfau yn ei law, a lladder pwy bynnag a ddaw i mewn i'r tŷ; byddant gyda'r brenin lle bynnag yr â.”
8 Gwnaeth y Lefiaid a holl Jwda bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, oherwydd nid oedd yr offeiriad Jehoiada wedi rhyddhau yr un o'r adrannau.
9 Yna rhoddodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid y gwaywffyn, y tarianau a'r bwcledi a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhŷ Dduw.