1 Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am ddeugain mlynedd. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.
2 Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad.
3 Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.
4 Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD.