1 Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am ddeugain mlynedd. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.
2 Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad.
3 Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.
4 Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD.
5 Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, “Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw.” Ond ni frysiodd y Lefiaid.