12 Rhoddai'r brenin a Jehoiada yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; yr oeddent hwythau yn cyflogi seiri maen a seiri coed i adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD, a gweithwyr mewn haearn a phres i'w atgyweirio.
13 Yr oedd y rhai a benodwyd yn gweithio'n ddyfal, a bu'r atgyweirio'n llwyddiant dan eu gofal; gwnaethant dŷ Dduw yn gadarn, a'i adfer i'w gyflwr gwreiddiol.
14 Wedi iddynt orffen, daethant â gweddill yr arian i'r brenin ac i Jehoiada, ac fe'i defnyddiwyd i wneud llestri i dŷ'r ARGLWYDD, sef llestri ar gyfer y gwasanaeth a'r poethoffrymau, llwyau a llestri aur ac arian. Buont yn offrymu poethoffrymau yn barhaus yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada.
15 Aeth Jehoiada'n hen, a bu farw mewn oedran teg. Yr oedd yn gant tri deg pan fu farw,
16 a chafodd ei gladdu gyda'r brenhinoedd yn Ninas Dafydd, am iddo wneud daioni yn Israel a gwasanaethu Duw a'i dŷ.
17 Wedi marw Jehoiada, daeth tywysogion Jwda i dalu gwrogaeth i'r brenin, a gwrandawodd yntau arnynt.
18 Yna troesant eu cefn ar dŷ'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a gwasanaethu'r pyst Asera a'r delwau. Daeth llid Duw ar Jwda a Jerwsalem am iddynt droseddu fel hyn.