4 Ond ni roddodd eu plant i farwolaeth, yn unol â'r hyn sy'n ysgrifenedig yn y gyfraith, yn llyfr Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, “Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth.”
5 Yna fe gasglodd Amaseia wŷr Jwda a'u gosod fesul teuluoedd o dan gapteiniaid miloedd a chapteiniaid cannoedd trwy holl Jwda a Benjamin. Rhifodd y rhai oedd yn ugain mlwydd oed a throsodd, a'u cael yn dri chan mil o wŷr dethol, parod i fynd allan i ryfel ac yn medru trin gwaywffon a tharian.
6 Cyflogodd hefyd gan mil o wroniaid o Israel am gan talent o arian.
7 Ond daeth gŵr Duw ato a dweud, “O frenin, paid â gadael i fyddin Israel fynd gyda thi, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gydag Israel, sef holl dylwyth Effraim.
8 Ond os ei ac ymgryfhau ar gyfer brwydr, bydd Duw yn dy ddymchwel o flaen y gelyn; oherwydd y mae gan Dduw y gallu i gynorthwyo neu i ddymchwel.”
9 Meddai Amaseia wrth ŵr Duw, “Ond beth a wnawn am y can talent a roddais i'r fintai o Israel?” Dywedodd gŵr Duw, “Gall yr ARGLWYDD roi llawer mwy na hynny iti.”
10 Felly rhyddhaodd Amaseia y fintai a ddaeth ato o Effraim, a'i hanfon adref. Yr oeddent hwy yn flin iawn gyda Jwda, ac aethant adref yn ddicllon.