20 Edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno a gweld y gwahanglwyf ar ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno.
21 Aeth yntau allan ar frys, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro. A bu'r Brenin Usseia yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei dŷ o achos y gwahanglwyf, ac wedi ei dorri allan o dŷ'r ARGLWYDD. Daeth Jotham ei fab i oruchwylio'r palas ac i reoli pobl y wlad.
22 Am weddill hanes Usseia, o'r dechrau i'r diwedd, fe'i hysgrifennwyd gan y proffwyd Eseia fab Amos.
23 Bu farw Usseia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr mewn man claddu yn perthyn i'r brenhinoedd, oherwydd dywedasant, “Yr oedd yn wahanglwyfus.” A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.