5 Felly gorchmynasant gyhoeddi trwy Israel gyfan, o Beerseba i Dan, fod pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel; oherwydd nid oeddent wedi ei gadw yn ôl y drefn ysgrifenedig ers amser maith.
6 Aeth negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ar orchymyn y brenin, gyda llythyrau oddi wrtho ef a'i swyddogion, yn dweud, “Bobl Israel, dychwelwch at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, ac fe ddychwel yntau at y gweddill ohonoch chwi a ddihangodd o law brenhinoedd Asyria.
7 Peidiwch â bod fel eich hynafiaid a'ch tylwyth, a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid; oherwydd cawsant hwy eu hanrheithio, fel y gwelwch.
8 Yn awr, peidiwch â bod yn ystyfnig fel eich hynafiaid, ond ymostyngwch i'r ARGLWYDD, a dewch i'w gysegr a gysegrodd ef yn dragywydd; gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw er mwyn iddo droi ei lid tanbaid oddi wrthych.
9 Oherwydd os dychwelwch at yr ARGLWYDD, caiff eich pobl a'ch plant drugaredd gan eu caethgludwyr, a dychwelyd i'r wlad hon; oblegid y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rasol a thrugarog, ac ni thry ei wyneb oddi wrthych os dychwelwch ato.”
10 Aeth y negeswyr o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse hyd at Sabulon, ond cawsant eu gwatwar a'u gwawdio.
11 Er hynny, cytunodd rhai o Aser, Manasse a Sabulon i ddod i Jerwsalem.