1 Yn fuan ar ôl yr enghreifftiau hyn o ffyddlondeb, daeth Senacherib brenin Asyria yn erbyn Jwda.
2 Gwersyllodd o gwmpas y dinasoedd caerog gan feddwl eu hennill drosodd. Pan welodd Heseceia fod Senacherib wedi cyrraedd a'i fod yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,
3 ymgynghorodd â'i gapteiniaid a'i wroniaid ynglŷn â chau'r ffynhonnau oedd y tu allan i'r ddinas,
4 a chafodd eu cefnogaeth. Yna daeth llawer iawn o bobl ynghyd, a chaewyd yr holl ffynhonnau a'r nant oedd yn llifo trwy ganol y wlad. “Pam,” meddent, “y dylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan ddônt yma?”
5 Ymroes y brenin i ailadeiladu pob rhan o'r mur oedd wedi ei ddryllio, a chodi ar y tyrau ac adeiladu mur arall ar yr ochr allan. Cryfhaodd y Milo yn Ninas Dafydd a gwneud llawer o arfau a tharianau.
6 Gosododd gapteiniaid milwrol dros y bobl, a'u casglu ato i'r sgwâr wrth borth y ddinas. Fe'u calonogodd gan ddweud,