12 Onid yr Heseceia hwn a dynnodd ymaith ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, ‘O flaen un allor yr addolwch ac arni hi yn unig yr arogldarthwch’?
13 Oni wyddoch beth a wneuthum i a'm rhagflaenwyr i holl bobloedd y gwledydd?
14 Prun o holl dduwiau'r cenhedloedd hyn, a ddinistriwyd gan fy rhagflaenwyr, a allodd waredu ei bobl o'm gafael? Sut felly y gall eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael?
15 Yn awr, peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo a'ch hudo fel hyn. Peidiwch ag ymddiried ynddo, oherwydd ni allodd duw unrhyw genedl na theyrnas waredu ei bobl o'm gafael i nac o afael fy rhagflaenwyr. Yn sicr ni all eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael!”
16 Dywedodd gweision Senacherib lawer mwy yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.
17 Ysgrifennodd lythyrau hefyd yn gwatwar yr ARGLWYDD, Duw Israel, fel hyn: “Fel y methodd duwiau cenhedloedd y gwledydd waredu eu pobl o'm gafael, ni fydd Duw Heseceia chwaith yn gwaredu ei bobl o'm gafael.”
18 A gwaeddasant yn uchel mewn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y mur, i godi arswyd arnynt er mwyn cymryd y ddinas.