25 Ond am ei fod yn falch, ni werthfawrogodd Heseceia yr hyn a wnaed iddo, a daeth llid Duw arno ef ac ar Jwda a Jerwsalem.
26 Yna, edifarhaodd Heseceia am ei falchder, a phobl Jerwsalem gydag ef, ac ni ddaeth llid yr ARGLWYDD arnynt wedyn yng nghyfnod Heseceia.
27 Yr oedd gan Heseceia olud a chyfoeth mawr iawn, a gwnaeth iddo'i hun drysordai ar gyfer arian ac aur, meini gwerthfawr, peraroglau, tarianau a phob math o bethau godidog.
28 Gwnaeth ysguboriau i'r cynhaeaf gwenith, gwin ac olew, a hefyd stablau i bob math o anifail, a chorlannau i ddiadellau.
29 Adeiladodd ddinasoedd iddo'i hun, a phrynodd lawer o ddefaid a gwartheg, oherwydd rhoddodd Duw olud mawr iawn iddo.
30 Heseceia oedd yr un a gaeodd darddiad uchaf dyfroedd Gihon, a'u cyfeirio i lawr tua'r gorllewin i Ddinas Dafydd. Bu Heseceia'n llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth.
31 Hyd yn oed pan anfonwyd negeswyr ato gan swyddogion Babilon i holi ynghylch yr arwydd a welwyd yn y wlad, gadawodd Duw lonydd iddo er mwyn ei brofi a gwybod y cwbl oedd yn ei galon.