29 Adeiladodd ddinasoedd iddo'i hun, a phrynodd lawer o ddefaid a gwartheg, oherwydd rhoddodd Duw olud mawr iawn iddo.
30 Heseceia oedd yr un a gaeodd darddiad uchaf dyfroedd Gihon, a'u cyfeirio i lawr tua'r gorllewin i Ddinas Dafydd. Bu Heseceia'n llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth.
31 Hyd yn oed pan anfonwyd negeswyr ato gan swyddogion Babilon i holi ynghylch yr arwydd a welwyd yn y wlad, gadawodd Duw lonydd iddo er mwyn ei brofi a gwybod y cwbl oedd yn ei galon.
32 Am weddill hanes Heseceia, a'i deyrngarwch, y mae wedi ei ysgrifennu yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos, yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
33 Bu farw Heseceia, ac fe'i claddwyd ar y bryn lle mae beddau disgynyddion Dafydd. Pan fu farw, talodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem deyrnged iddo, a daeth ei fab Manasse yn frenin yn ei le.