5 Ymroes y brenin i ailadeiladu pob rhan o'r mur oedd wedi ei ddryllio, a chodi ar y tyrau ac adeiladu mur arall ar yr ochr allan. Cryfhaodd y Milo yn Ninas Dafydd a gwneud llawer o arfau a tharianau.
6 Gosododd gapteiniaid milwrol dros y bobl, a'u casglu ato i'r sgwâr wrth borth y ddinas. Fe'u calonogodd gan ddweud,
7 “Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch ag ofni na digalonni o flaen brenin Asyria a'i holl fintai. Y mae gennym ni fwy nag sydd ganddo ef.
8 Gallu dynol sydd ganddo ef, ond y mae yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.” Ac fe ymddiriedodd y bobl yng ngeiriau Heseceia brenin Jwda.
9 Yn ddiweddarach, pan oedd Senacherib brenin Asyria a'i holl fyddin yn gwarchae ar Lachis, anfonodd ei weision i Jerwsalem gyda'r neges hon i Heseceia brenin Jwda a phawb o Jwda oedd yn Jerwsalem:
10 “Fel hyn y dywed Senacherib brenin Asyria: Ym mha beth yr ydych yn ymddiried, fel eich bod yn aros dan warchae yn Jerwsalem?
11 Onid yw Heseceia yn eich twyllo ac yn eich condemnio i farw o newyn a syched trwy ddweud, ‘Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria’?