2 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybrau ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
3 Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yntau'n dal yn llanc ifanc, dechreuodd geisio Duw ei dad Dafydd. Yn y ddeuddegfed flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem o'r uchelfeydd, y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd.
4 Gorchmynnodd ddinistrio allorau'r Baalim, a thorrodd i lawr yr allorau arogldarth a oedd uwch eu pen; drylliodd yn chwilfriw y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd; malodd hwy'n yfflon a thaenu eu llwch hyd wyneb beddau y rhai a fu'n aberthu iddynt.
5 Llosgodd esgyrn yr offeiriaid ar eu hallorau, a phurodd Jwda a Jerwsalem.
6 Gwnaeth yr un peth yn ninasoedd Manasse, Effraim a Simeon, hyd at Nafftali, ac yn yr adfeilion o'u cwmpas,
7 sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.
8 Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar ôl puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD ei Dduw.