8 Hefyd, rhoddodd ei swyddogion o'u gwirfodd i'r bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Hilceia, Sechareia a Jehiel, prif swyddogion tŷ Dduw, ddwy fil a chwe chant o ddefaid a thri chant o ychen i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg.
9 A rhoddodd Cononeia a'i frodyr Semaia a Nethaneel, a Hasabeia, Jehiel a Josabad, swyddogion y Lefiaid, bum mil o ddefaid a phum cant o ychen ar gyfer y Pasg.
10 Felly paratowyd y gwasanaeth, a safodd yr offeiriaid yn eu lle a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.
11 Lladdasant oen y Pasg, a lluchiodd yr offeiriaid beth o'r gwaed ar yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
12 Yna aethant â'r poethoffrymau ymaith i'w dosbarthu yn ôl rhaniadau teuluoedd y bobl, er mwyn iddynt offrymu i'r ARGLWYDD fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses; felly hefyd y gwnaethant â'r ychen.
13 Rhostiwyd oen y Pasg ar y tân, yn ôl y ddefod, a berwi'r pethau cysegredig mewn crochanau, peiriau a phedyll, a'u rhannu ar frys i'r holl bobl.
14 Yna paratoesant ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr offeiriaid, oherwydd yr oedd yr offeiriaid, meibion Aaron, wedi bod yn aberthu'r poethoffrwm a'r offrymau o fraster hyd yr hwyr. Fel hyn y paratôdd y Lefiaid ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, meibion Aaron.