12 y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;
13 y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;
14 y deg troli; y deg noe ar y trolïau;
15 y môr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.
16 Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.
17 Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.
18 Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.