8 Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur.
9 Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau â phres.
10 Gosododd y môr ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tŷ.
11 Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ Dduw:
12 y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;
13 y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;
14 y deg troli; y deg noe ar y trolïau;