20 Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, ‘Fy enw a fydd yno’: a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn.
21 Gwrando hefyd ar ddeisyfiadau dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando o'r nef lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
22 “Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn,
23 gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th weision drwy gosbi'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
24 “Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn,
25 gwrando di o'r nef a maddau bechod dy bobl Israel, ac adfer hwy i'r tir a roddaist iddynt hwy ac i'w hynafiaid.
26 “Os bydd y nefoedd wedi cau, heb ddim glaw, am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechodau oherwydd iti eu cosbi,