5 ‘Er y dydd y dygais fy mhobl o wlad yr Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno, ac ni ddewisais neb i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.
6 Ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.’
7 Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel,
8 ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad,
9 ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tŷ; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tŷ i'm henw.’
10 Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel.
11 Yr wyf hefyd wedi gosod yno yr arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â phobl Israel.”