8 Yr oedd disgynyddion y rhain wedi eu gadael ar ôl yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa; arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.
9 Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas ar gyfer ei waith; hwy oedd ei filwyr, ei gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,
10 a hwy hefyd oedd prif arolygwyr y Brenin Solomon—dau gant a hanner ohonynt, yn rheoli'r bobl.
11 Daeth Solomon â merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i'r tŷ a gododd iddi, oherwydd dywedodd, “Ni chaiff fy ngwraig i fyw yn nhŷ Dafydd brenin Israel, am fod pob man yr aeth arch yr ARGLWYDD iddo yn gysegredig.”
12 Yna fe offrymodd Solomon boethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, a gododd o flaen y porth.
13 Offrymai yn unol â'r gofynion dyddiol a orchmynnodd Moses ynglŷn â'r Sabothau, y newydd-loerau a'r tair gŵyl flynyddol arbennig, sef gŵyl y Bara Croyw, gŵyl yr Wythnosau a gŵyl y Pebyll.
14 Ac yn unol â threfn ei dad Dafydd, fe osododd yr offeiriaid mewn dosbarthiadau ar gyfer gwasanaethu, a'r Lefiaid ar ddyletswydd i ganu mawl ac i wasanaethu'r offeiriaid yn feunyddiol yn ôl y gofyn, a'r porthorion mewn dosbarthiadau wrth bob porth, oherwydd dyma orchymyn Dafydd, gŵr Duw.