13 Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,
14 heblaw yr hyn a gâi gan y marchnadwyr a'r masnachwyr; hefyd fe ddôi holl frenhinoedd Arabia a rheolwyr y taleithiau ag aur ac arian iddo.
15 Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chan sicl o aur gyr ym mhob tarian.
16 Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un;
17 a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon. Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro ag aur coeth.
18 Yr oedd i'r orseddfainc chwe gris a throedle aur; yr oedd dwy fraich o boptu i'r sedd a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.
19 Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris. Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas.