21 Yr oedd gweision Hiram yn mynd â llongau'r brenin i Tarsis, ac unwaith bob tair blynedd fe ddôi llongau Tarsis â'u llwyth o aur, arian ac ifori, ac epaod a pheunod.
22 Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.
23 Ac yr oedd holl frenhinoedd y ddaear yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roes Duw yn ei galon.
24 Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion—llestri aur ac arian, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.
25 Yr oedd gan Solomon bedair mil o gorau ar gyfer meirch a cherbydau, a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chydag ef yn Jerwsalem.
26 Ac yr oedd yn teyrnasu ar yr holl frenhinoedd o'r Ewffrates hyd at wlad y Philistiaid ar derfyn yr Aifft.
27 Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.