16 A'r amser hwnnw y gorchmynnais i'ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a'i frawd, ac a'r dieithr sydd gydag ef.
17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a'r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a'i gwrandawaf.
18 Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.
19 A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy'r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades‐Barnea.
20 A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni.
21 Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o'th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.
22 A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.