Deuteronomium 16 BWM

1 Cadw y mis Abib, a chadw Basg i'r Arglwydd dy Dduw: canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o'r Aifft, o hyd nos.

2 Abertha dithau yn Basg i'r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef yno.

3 Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes.

4 Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o'r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.

5 Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o'th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti:

6 Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o'r Aifft.

7 Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a'r bore y dychweli, ac yr ei i'th babellau.

8 Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.

9 Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo'r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo'r saith wythnos.

10 A chadw ŵyl yr wythnosau i'r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.

11 A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo.

12 Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.

13 Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a'th win.

14 A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.

15 Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.

16 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw.

17 Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.

18 Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.

19 Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.

20 Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.

21 Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti.

22 Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34