Deuteronomium 14 BWM

1 Plant ydych chwi i'r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.

2 Canys pobl sanctaidd wyt ti i'r Arglwydd dy Dduw, a'r Arglwydd a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

3 Na fwyta ddim ffiaidd.

4 Dyma'r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr,

5 Y carw, a'r iwrch, a'r llwdn hydd, a'r bwch gwyllt, a'r unicorn, a'r ych gwyllt, a'r afr wyllt.

6 A phob anifail yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.

7 Ond hyn ni fwytewch, o'r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a'r ysgyfarnog, a'r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi'r ewin, aflan ydynt i chwi.

8 Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi'r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt.

9 Hyn a fwytewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch.

10 A'r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.

11 Pob aderyn glân a fwytewch.

12 A dyma'r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol,

13 A'r bod, a'r barcud, a'r fwltur yn ei rhyw,

14 A phob cigfran yn ei rhyw,

15 A chyw yr estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r hebog yn ei ryw,

16 Aderyn y cyrff, a'r dylluan, a'r gogfran,

17 A'r pelican, a'r biogen, a'r fulfran,

18 A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.

19 A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt.

20 Pob ehediad glân a fwytewch.

21 Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i'r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i'r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i'r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

22 Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn.

23 A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o'i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a'th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a'th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser.

24 A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw:

25 Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:

26 A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a'th deulu.

27 A'r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.

28 Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.

29 A'r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â'th law.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34